P-05-830 Ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn, yn Amser Llawn

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Joe Carter, ar ôl casglu 380 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn, yn amser llawn a buddsoddi yn y ganolfan hon a ddefnyddir yn helaeth. Rydym yn galw ar y bwrdd iechyd i gynnal asesiad o anghenion cleifion yn Nwyrain Caerdydd yn sgîl y datblygiadau tai diweddar.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Canol Caerdydd

·         Canol De Cymru